BETA

Dyma offeryn newydd. Rhowch adborth i helpu i'w wella

Datganiad hygyrchedd ar gyfer DataFferm+

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth DataFferm+, sydd ar gael yn:
https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru/

Mae DataFferm+ yn cael ei weithredu gan raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo’r testun hyd at 400% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin 

gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 

  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch eto:

  • Mae nifer fach o gysylltiadau yn parhau heb nodweddion ‘href’ dilys, sy'n effeithio ar we-lywio ar gyfer rhai technolegau cynorthwyol. 
  • Roedd rhai tudalennau yn cynnwys penawdau a oedd wedi’u nythu’n anghywir yn flaenorol, a allai fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr sy'n gwe-lywio gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin. 
  • Nid oedd gan nifer fach o reolaethau ffurflenni labeli unigryw (e.e. botymau "Rheoli" ar gyfer cofnodion DPA), sy’n ei gwneud yn anodd i dechnolegau cynorthwyol eu dehongli. 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau hygyrchedd nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall (fel PDF hygyrch, print bras, sain, neu braille), cysylltwch â’r canlynol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith.

 

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyswllt Ffermio wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2,  yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod. 

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Gwerthoedd dolenni annilys neu ddolenni coll

Doedd rhai dolenni ddim yn cynnwys gwerthoedd ‘href’ dilys. Gall hyn achosi anawsterau i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol, am efallai na fydd dolenni yn cael eu cyhoeddi neu’n ymddwyn yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).

Mae nifer fach o fân achosion yn parhau, a byddant yn cael eu datrys erbyn 10 Mawrth 2026.

 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Priodweddau ARIA anghywir neu ddiangen

Roedd rhai tudalennau’n cynnwys priodoleddau ARIA diangen lle nad oedd y gwerth ‘aria-describedby’ yn cyfateb i ID elfen. Gall hyn arwain at ddarparu gwybodaeth anghywir neu ddryslyd i dechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).

Gwnaethom drwsio'r holl achosion a nodwyd ar 27 Chwefror 2026.

Roedd y tudalennau yr effeithiwyd arnynt yn cynnwys:

Labeli rheoli ffurflenni nad oeddent yn unigryw

Nid oedd rhai botymau "Rheoli" ar gyfer cofnodion DAP yn darparu digon o gyd-destun i'w gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin ddeall pwrpas pob rheolaeth. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 2.4.6 (Penawdau a Labeli).

Gwnaethom drwsio'r broblem hon ar 27 Chwefror 2026 trwy ychwanegu testun disgrifiadol a oedd wedi’i guddio’n weledol, er enghraifft "Manage Sow replacement rate%".

Roedd y dudalen yr effeithiwyd arnynt yn cynnwys:

  • /9238492384

Strwythur penawdau anghywir

Cafodd rhai penawdau gwe-lywio eu marcio fel elfennau <h2>, a oedd yn ymddangos cyn yr <h1> yn strwythur y dudalen. Creodd hyn hierarchaeth penawdau anghywir, a all wneud strwythur tudalen yn anoddach i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin ei ddeall. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).

Gwnaethom drwsio'r broblem hon ar 27 Chwefror 2026 trwy ddileu'r elfennau <h2> diangen.

 

Baich anghymesur

Nid ydym yn honni unrhyw faterion fel baich anghymesur ar hyn o bryd.

 

Yr hyn rydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i adolygu DataFferm+ wrth i nodweddion newydd gael eu hychwanegu. Bydd gweddill y gwaith atgyweirio dolenni’n cael ei gwblhau cyn lansio, a bydd archwiliadau cyfnodol yn parhau fel rhan o ymrwymiadau hygyrchedd digidol Cyswllt Ffermio.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 5 Mawrth 2026. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 5 Mawrth 2026.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 27 Chwefror 2026. Cynhaliwyd y prawf gan S8080. 

Ar 27 Chwefror 2026, defnyddiodd S8080 Total Validator i sganio dros 151 o'n tudalennau am gydymffurfiaeth â lefel A ac AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth.

Gwnaethom brofi prif blatfform ein gwefan, sydd ar gael yn https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru/