Amodau a thelerau’r wefan
Mae https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru, a elwir yn DATAFFERM+, yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru: (cyfeirir atynt fel “Ni” isod). Wrth gael mynediad i’r wefan hon, rydych yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn. Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 13/03/2026.
Mae gwasanaethau cymorth busnes amaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys DATAFFERM+ ar gael ar gyfer eich defnydd personol ac i chi edrych arnynt. Mae mynediad at DATAFFERM+ a’r defnydd ohono sy'n cynnwys yr amodau a’r telerau hyn yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn. Maent yn dod i rym o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r wefan hon gyntaf
Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n torri hawliau, nac yn cyfyngu nac yn atal defnydd a mwynhad y wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad neu waharddiad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a all aflonyddu neu achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw un, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu sarhaus neu amharu ar lif arferol deialog o fewn y wefan hon.
Fe’ch gwaherddir rhag cynnwys neu drosglwyddo drwy'r wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, enllibus, anweddus, sarhaus neu warthus, neu unrhyw ddeunydd sy'n gyfystyr â neu'n annog ymddygiad a fyddai'n cael ei ystyried yn drosedd, yn debygol o arwain at atebolrwydd sifil, neu sy'n torri unrhyw gyfraith fel arall. Byddwn yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gofyn yn gyfreithlon i ni neu'n ein cyfarwyddo i ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy'n ychwanegu unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o'r fath ar y wefan hon.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth
Rydym yn destun darpariaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, 2004 (EIR). Golyga hyn y gall unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych yn ei roi i ni o bosibl gael ei ddatgelu os bydd cais Fol. Petai unrhyw wybodaeth rydych yn ei roi i ni yn cael ei ddal gan gais, byddwn fel arfer yn ymgynghori â chi i gael eich barn ar ba niwed, os o gwbl, a fyddai’n codi o ryddhau’r wybodaeth i barth cyhoeddus.
Ac eithrio lle nodir mewn man arall yn yr amodau a’r telerau, ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth rydych yn ei roi i ni gydag unrhyw drydydd parti arall oni bai:
- ei fod yn ddyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu’r wybodaeth er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (megis FoIA)
- er mwyn gorfodi neu roi ein Telerau Defnyddwyr ac unrhyw gytundebau perthnasol eraill ar waith
- i amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch eraill
- os byddwn yn allanoli neu’n trosglwyddo rheolaeth a/neu weithrediad y wefan gyfan neu ran o’r wefan i drydydd parti, i alluogi’r trydydd parti i barhau i ddarparu mynediad i chi i’r wefan neu unrhyw wasanaeth arall a ddarperir gan y gwefan
Cysylltu â ac o https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru/
Nid yw mynediad uniongyrchol i DATAFFERM+ yn bosibl o wefannau eraill. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i ychwanegu dolen i https://busnescymru.llyw.cymru/cyswlltffermio/gwasanaethau/meincnodi. Mae hyn yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â mynediad i DATAFFERM+ a’r defnydd ohono ar y dudalen hon. Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu â’r dudalen feincnodi.
Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi’r hawl i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig gyda neu’n cael ei gefnogi gan DATAFFERM+.
Lle mae’r wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac mae’r adnoddau’n cael eu darparu gan drydydd parti, mae’r dolenni hyn yn cael eu darparu er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau hynny na’r adnoddau, ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb drostynt.
Defnyddio cynnwys https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru/
Mae DATAFFERM+ yn cael ei gyhoeddi o dan Drwydded Llywodraeth Agored, a gallwch ailgynhyrchu gwybodaeth o’r wefan cyhyd a’ch bod yn cydymffurfio â thelerau’r drwydded honno.
Mae’r deunydd sydd wedi’i gynnwys ar y wefan hon yn destun amddiffyniad hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol.
Marc perchnogol Llywodraeth Cymru yw enwau, delweddau a logos sy’n dynodi Llywodraeth Cymru. Ni chaniateir i unrhyw un gopïo neu ddefnyddio’r logo nac unrhyw logo trydydd parti arall a geir drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.
Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru. E-bost: brandingqueries@gov.wales.
Ymwadiad
Mae gwefan DATAFFERM+ a deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau’n ymwneud â’r llywodraeth (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei ddarparu “fel y mae” heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth a heb unrhyw warant o unrhyw fath, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i warant oblygedig ansawdd derbyniol, addasrwydd am bwrpas penodol, addasrwydd, diogelwch, cyflawnrwydd a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu nac yn cynrychioli y bydd y nodweddion sydd wedi’u cynnwys yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli’r holl ymarferoldeb, cywirdeb neu ddibynadwyedd sydd ynghlwm wrth y deunyddiau.
Ni fyddwn, mewn unrhyw amgylchiad, yn atebol am unrhyw gost, colled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw gost, colled neu ddifrod o unrhyw fath sy’n deillio o ddefnyddio, neu o’r anallu i ddefnyddio, data, neu golled elw, sy’n codi o neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan DATAFFERM+ neu ddibynnu ar ei chynnwys.
Ni ellir sicrhau bod trosglwyddiad data dros y we yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn ceisio diogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn sicrhau ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei drosglwyddo i ni. Yn unol â hynny, bydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei drosglwyddo i ni yn cael ei wneud yn ôl eich risg eich hun.
Nid yw gwefan DATAFFERM+ yn cymryd lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr gael cyngor proffesiynol sy’n berthnasol i’w hamgylchiadau penodol.
Gall y deunydd ar y wefan hon gynnwys barn neu argymhellion trydydd parti, sydd nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nac yn dangos ei ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb nac atebolrwydd sy’n codi mewn perthynas â deunydd trydydd parti o’r fath.
Cyfraith llywodraethu
Bydd yr amodau a’r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan a’u dadansoddi yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan yr amodau a’r telerau hyn yn destun awdurdod y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.
Diogelu gwrth-firws
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r gwaith cynhyrchu. Rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw’r broses rydych yn ei ddefnyddio i gael mynediad at y wefan yn eich amlygu i beryglon firysau, cod cyfrifiadur maleisus neu ffurfiau eraill o ymyriad a all niweidio system eich cyfrifiadur. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd rydych yn ei lawr lwytho o’r rhyngrwyd.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu niwed i’ch data neu system eich cyfrifiadur a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’r wefan hon.
Amrywiad
Gallwn adolygu’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw adeg a heb rybudd. Cofiwch wirio’n rheolaidd. Bydd parhau i ddefnyddio gwefan DATAFFERM+ ar ôl i newid gael ei wneud yn cadarnhau eich bod wedi derbyn y newid.
Cyffredinol
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd dros fethu â chydymffurfio â’r amodau a’r telerau hyn lle mae methiant o’r fath o ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Os fyddwn yn hebgor unrhyw hawliau sydd ar gael i ni o dan yr amodau a’r telerau hyn ar unrhyw achlysur, nid yw hynny’n golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hebgor yn awtomatig ar achlysur arall. Os bydd unrhyw un o’r amodau a’r telerau hyn yn annilys, anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill yr amodau a’r telerau’n parhau mewn grym.
Cysylltu â gwefannau eraill
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i ac o wefannau adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill. Dylwn nodi’n glir bod yr amodau a’r telerau hyn (yr un rydych yn ei ddarllen) yn berthnasol i wefan https://datafferm.cyswlltffermio.llyw.cymru/
Dilyn dolen i wefan arall
Os byddwch yn ymweld â gwefan arall o’r un yma, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan os ydych am gael gwybod beth mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.